Rhif y ddeiseb: P-06-1360

Teitl y ddeiseb: Dylid adeiladu ffordd ymadael syml rhwng yr M48 tua’r gorllewin a'r M4 tua'r dwyrain yn Rhosied

Geiriad y ddeiseb: Bob tro mae Pont Hafren (Croesfan yr M48) ar gau i draffig, mae’r ardal sy’n cynnwys Cas-gwent, Cil-y-coed, Magwyr gyda Gwndy a Dwyrain Casnewydd yn llythrennol dod i stop. Yn fras, y rheswm dros hynny yw bod yn rhaid i draffig Cas-gwent sy’n anelu am Loegr naill ai gylchu o amgylch yr isffyrdd heibio Cil-y-coed a thrwy Fagwyr, neu fynd yn syth i lawr yr M48 i gyffordd 23 yr M4, gan droi o amgylch y gylchfan yn eu lluoedd, ac atal traffig Casnewydd a Magwyr rhag llifo allan i gyffordd 23. Mae’n rhaid dirwyn y sefyllfa hon i ben, ac mae modd gwneud hynny.

Ar 13/03/2023 am 07:25 gadewais fy nghyfeiriad yng Ngwndy er mwyn mynd i weithio yn Portishead. Wedi gadael Manor Chase ar y B4245, ymunais â chiw o draffig bron ar unwaith, ac o ganlyniad roedd y daith arferol o tua phedwar/pum munud i gyrraedd ffordd ymuno tua’r dwyrain yr M4 ar gyffordd 23 wedi cymryd union ddwy awr a hanner. Roedd yn rhaid i mi ddyfalbarhau gan fy mod wedi cofrestru ar gwrs hyfforddi gorfodol a oedd yn gofyn am fod yno mewn person. Dyw’r stori hon ddim heb ei thebyg. Yr un yw’r profiad i gannoedd, os nad miloedd o bobl bob tro y mae Pont Hafren ar gau i draffig. Mae'n rhaid i'r gornel gyfan hon o Gymru ddioddef y sefyllfa hon a byddai’n hawdd lleddfu'r mater gyda ffordd ymadael syml a chymharol rad rhwng yr M48 tua'r gorllewin a'r M4 tua'r dwyrain rhwng Rhosied a Gwndy. Cae yn unig yw'r tir ar hyn o bryd, mae'r dopograffeg yn ffafriol a byddai ffordd  ymadael yn atal traffig Cas-gwent rhag cau cylchfan cyffordd 23 yn llwyr, gan osgoi’r oedi hwn.


1.        Cefndir

Mae'r M48 a'r M4 yn cyfarfod wrth gyfnewidfa Rhosied – cyffordd 23 yr M4 – gerllaw Magwyr.

Mae pontydd Hafren yr M4 a'r M48 yn gyfrifoldeb Priffyrdd Cenedlaethol, asiantaeth Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am reoli, cynnal a chadw a gwella rhwydwaith ffyrdd strategol Lloegr.

Mae Priffyrdd Cenedlaethol yn dangos bod pont yr M48 yn cau'n amlach o ganlyniad i waith cynnal a chadw, ac i wella diogelwch i swyddogion traffig.

Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer yr M4 a'r M48 yng Nghymru, gan gynnwys cyfnewidfa Rhosied.

Yn dilyn adroddiad y Panel Adolygu Ffyrdd a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023, nododd Llywodraeth Cymru ei hymateb mewn Datganiad Polisi Ffyrdd newydd, yn ogystal â Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth newydd.

Mae'r datganiad polisi yn nodi dan ba amgylchiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn ffyrdd, gan ddatgan y bydd yn gwneud hynny er mwyn:

§    cefnogi newid moddol a lleihau allyriadau carbon;

§    gwella diogelwch trwy newidiadau ar raddfa fach;

§    addasu i effeithiau newid hinsawdd;

§    rhoi mynediad a chysylltedd i swyddi a chanolfannau gweithgarwch economaidd mewn ffordd sy'n cefnogi newid moddol.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi Uned Cyflenwi Burns, i oruchwylio'r gwaith o weithredu 58 argymhelliad Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. Nod y gwaith yw cynnig dewisiadau eraill yn lle siwrneiau ar yr M4 ac annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn y rhanbarth, gan liniaru tagfeydd ar yr M4 yn ne-ddwyrain Cymru.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae llythyr y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd ar y ddeiseb hon yn dweud y canlynol:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno slipffordd yn y lleoliad hwn, ac mae'n annhebygol y byddai cynllun o'r math hwn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cyllid o dan ein profion adeiladu ffyrdd yn y dyfodol a nodir yn ein hymateb i'r Adolygiad Ffyrdd.

Mae'r Dirprwy Weinidog hefyd yn amlinellu'r gwaith sydd wedi dechrau i weithredu argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru i liniaru tagfeydd ar yr M4.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Er bod argymhellion yr Adolygiad Ffyrdd a Chomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru wedi’u trafod yn helaeth yn y Senedd, nid yw hynny’n wir am y mater penodol a godwyd gan y ddeiseb.

Fodd bynnag, ar 14 Gorffennaf 2021, gofynnodd Natasha Ashgar AS i'r Dirprwy Weinidog yn y Cyfarfod Llawn a fyddai'n ymrwymo i fwrw ymlaen â gwaith datblygu ar gyfer “[c]yffordd traffordd ar yr M48, lle roedd tollau pont Hafren yn arfer bod, i leddfu tagfeydd ar yr M4.” Roedd y tollau rhwng cyffyrdd 23 a 24 yr M4. Gwrthododd y Dirprwy Weinidog y cynnig hwn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.